Gareth Ffowc Roberts


Mathematician and Author

Mathemategydd ac Awdur


For the Recorde

For the Recorde

Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru 2022 £11.99

Mae mathemateg yn rhan anhepgor o ddiwylliant Cymraeg. Yn y llyfr hwn, olrheinir hanes dwsin o fathemategwyr a anwyd yng Nghymru neu a weithiodd yng Nghymru, gan awgrymu bod 'gwlad y gân' hefyd yn wlad mathemateg a gwyddoniaeth.

Mathematics is an integral component of Welsh culture. In this book, the history of twelve mathematicians born in Wales or who worked in Wales is traced, suggesting that Wales 'the land of song' is also a land of mathematics and science.

Prynwch y llyfr yma

Cyfri’n Cewri: Hanes Mawrion ein Mathemateg

Cyfri'n Cewri

Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru 2020 £11.99

Darganfyddwch pam y mae mathemateg yn rhan naturiol a hanfodol o'n diwylliant, yn gyfochrog â chanu a barddoni, a pham y mae hanes ein mathemateg yn rhan mor bwysig o'n treftadaeth. Mae'r gyfrol hon yn dathlu bywyd a gwaith mathemategwyr a gysylltir â Chymru.

‘Gwych oedd cael f’atgoffa gan y gyfrol ryfeddol yma fod mathemateg yn perthyn i ni gyd ac yn rhan o’n hanes cenedlaethol. A gwych hefyd ydi gweld yr awdur ar ei orau yn gwneud mathemateg yn berthnasol, hygyrch a hynod ddiddorol hyd yn oed i glown fel fi.’ Tudur Owen, comedïwr a darlledwr.

Prynwch y llyfr yma

Posau Bach – Mini Puzzles.

Posau Bach - Mini Puzzles

Gareth Ffowc Roberts & Helen Elis Jones

Cyhoeddwyd gan/Published by Atebol 2018 £9.99

Casgliad gwerthfawr o weithgareddau a phosau mathemateg ar gyfer plant 6-11 oed yn bennaf. Gellir eu llungopïo a’u defnyddio yn yr ysgol dan arweiniad athro neu yn y cartref gyda rhieni/gwarchodwyr. Mae’r gweithgareddau’n gyfle i blant arbrofi gyda syniadau mathemategol newydd.

A valuable collection of maths activities and puzzles, primarily for 6-11 year olds. They can be photcopied and used at school with a teacher or at home with parents/guardians. The activities provide an opportunity for children to experiment with new mathematical ideas.

Prynwch y llyfr yma

Count Us In

Count Us In

Published by the University of Wales Press 2016 £11.99

Find out why maths really is for you, for your children and for your grandchildren, and why it’s a natural part of your cultural heritage.

"A delightful and fascinating read about the role of maths in Wales, and the role of Wales in maths. Anyone with an interest in Welsh culture, maths history or education will love this book."

Alex Bellos
Author of the best-sellers Alex’s Adventures in Numberland and Alex through the Looking-Glass

Buy the book here.

Mae Pawb yn Cyfrif

Mae Pawb yn Cyfri

Cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 2012. £9.99

Darllenwch y gyfrol hon, p’un ai bod gennych ddiddordeb mewn mathemateg ai peidio!

Dyma drafodaeth newydd ac unigryw ar agweddau cyfoes y Cymry at rifau a rhifo. Ydyn, mae pawb yn cyfrif!

Written in Welsh, this book will appeal both to those with an interest in mathematics and to those with no interest at all!

It presents an original and thought-provoking slant on the contemporary attitudes of the Welsh to numbers and numeracy.

Prynwch y llyfr yma.

Posau Pum Munud3

Posau Pum Munud 3

Cyhoeddwyd gan Wasg Gomer 2016 £4.99

Posau Pum Munud3 yw’r trydydd detholiad o’r posau dyddiol poblogaidd ar Twitter. Gall pawb rhwng 9 a 90 roi cynnig ar y posau.

"Mae criw’r shifft hwyr ar Radio Cymru’n hoff iawn o bos Gareth Ffowc ar nos Fercher. Weithiau mae’r ateb wedi’n cyrraedd cyn i Gareth adael y stwidio, a thro arall mae cryn dipyn o grafu pen."
Geraint Lloyd

Prynwch y llyfr yma.

Posau Pum Munud2

Posau Pum Munud 2

Cyhoeddwyd gan Wasg Gomer 2014 £4.99

Pigion pellach o bosau dyddiol poblogaidd ar Twitter sydd yn Posau Pum Munud². Gall mathemateg fod yn llawer o hwyl, fel mae’r posau yma’n dangos. Dewiswch ddyddiad a rhoi cynnig ar bos y diwrnod i ymestyn eich ymennydd.

"Llyfr sy'n agor y drws yn llydan i ddarganfod pleser, cyfaredd a dirgelwch rhif a rhifau."
Aled Jones Williams
Llenor a dramodydd

Prynwch y llyfr yma.

Posau Pum Munud

Posau Pum Munud

Cyhoeddwyd gan Wasg Gomer 2013 £4.99

Rhai o bosau dyddiol Gareth Ffowc Roberts ar Twitter sydd yma. Ie, posau mathemateg ydynt ... ond peidiwch â dychryn!

Cwestiynau hwyl at ddant pawb yw’r rhain, yn rhoi gwên fach ar eich wyneb pan fo pum munud sbâr.

’Sdim rhaid bod yn fathemategydd i’w mwynhau na’u datrys, mae’n ddigon bod gennych yr awydd i feddwl y tu hwnt i’r bocs.

Prynwch y llyfr yma.

Robert Recorde: The Life and Times of a Tudor Mathematician

Clawr Robert Recorde: The Life and Times of a Tudor Mathematician

‘The authors of this collection of highly readable essays shine a bright light on the life and work of the Tudor mathematics educator Robert Recorde, the man best known for having invented the equals sign. It is a fascinating read for those interested in the Tudor period, the history of science and the history of mathematics, and it will ensure that Recorde is remembered for much more than just the invention of a mathematical symbol.’ June Barrow-Green, Y Brifysgol Agored/The Open University

Gwasg Prifysgol Cymru / University of Wales Press £14.99

Buy the book here